Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
UK stem cells register reaches two million volunteers - Welsh Blood Service

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Adroddiad newydd: cofrestr bôn-gelloedd y du yn cyrraedd dwy filiwn

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae dros ddwy filiwn o bobl wedi cofrestru i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd yn y DU. Cafodd cofrestr bôn-gelloedd y DU flwyddyn lwyddiannus dros ben yn 2019/20, gyda 326,756 o roddwyr newydd yn cael eu hychwanegu – dros 100,000 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Mae cofrestr bôn-gelloedd y DU yn cael ei hadnabod fel Cofrestr Anthony Nolan a Bôn-gelloedd y GIG, ac mae’n cynnwys rhoddwyr sydd wedi’u recriwtio gan Waed a Thrawsblaniadau’r GIG, Gwasanaeth Gwaed Cymru, DKMS ac Anthony Nolan.

Mae cofrestri rhoddwyr y DU yn annog dynion ifanc, a phobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i gofrestru, ac yn sicrhau bod pob claf sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd yn gallu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, a allai achub eu bywydau.

Os oes gan glaf gyflwr sy’n effeithio ar eu mêr esgyrn neu eu gwaed, yna efallai mai trawsblaniad bôn-gelloedd yw ei siawns orau o oroesi. Bydd meddygon yn rhoi bôn-gelloedd iach, newydd i’r claf drwy eu llif gwaed, lle maen nhw’n dechrau tyfu a chreu celloedd gwaed coch, iach, celloedd gwaed gwyn, a phlatennau.

Yn 2019/20, roedd 62 y cant o’r bobl a roddodd fôn-gelloedd neu fêr esgyrn i gleifion yn y DU yn ddynion dan 30 oed. Nhw ydy’r demograffig sydd fwyaf tebygol o gael eu dewis i roi gwaed, ond maen nhw’n ffurfio dim ond 19 y cant o gofrestr bôn-gelloedd y DU.

Er gwaethaf y newyddion gwych hwn, mae gennym fwy i’w wneud o hyd. Yn anffodus, mae rhai cleifion o hyd sydd ddim yn gallu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw.

Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru

Mae canran yr holl roddwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi aros yn sefydlog ar 13 y cant yn 2019/20, ac yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth o’u potensial i achub bywydau ymhlith y grŵp hwn. Mae gan gleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifol eraill siawns o 20 y cant o ddod o hyd i roddwr y mae eu bôn-gelloedd yn cydweddu orau â nhw sydd ddim yn perthyn iddynt, o’i gymharu â 69 y cant ar gyfer pobl sydd yn dod o ogledd Ewrop.

Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:

“Mae’n galonogol dros ben gwybod bod dwy filiwn o bobl yn y DU yn barod i roi bôn-gelloedd os ydynt yn cydweddu â rhywun sydd o bosib ei angen i achub eu bywydau.

“Yn ein rolau, rydym yn gweld y gwahaniaeth mae bôn-gelloedd yn ei wneud. I lawer o gleifion; derbyn bôn-gelloedd ydy’r opsiwn triniaeth terfynol.

“Er gwaethaf y newyddion gwych hwn, mae gennym fwy i’w wneud o hyd. Yn anffodus, mae rhai cleifion o hyd sydd ddim yn gallu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob claf y cyfle gorau posibl i ddod o hyd i’r un rhoddwr achub bywyd hwnnw.”

Ydych chi rhwng 17 oed a 30 oed? Helpwch ni i drechu canser. Ymunwch â’n cofrestr mêr esgyrn sy’n achub bywydau heddiw.

Rhagor o wybodaeth

Meddai Henny Braund, Prif Weithredwr Anthony Nolan:

“Ni allai neb fod wedi rhagweld yr heriau y byddai eleni yn eu cyflwyno o ran adeiladu cofrestr bôn-gelloedd iach ac amrywiol. Ond dydy cleifion ddim yn gallu aros – felly rydym wedi addasu ac arloesi – ac rydym wrth ein bodd ein bod ni, yn 2020, wedi recriwtio dwy filiwn o roddwyr i fod ar y gofrestr bôn-gelloedd. Mae pob rhoddwr yn cynrychioli gobaith, a’r posibilrwydd o wella canser y gwaed.

“Diolch i gydweithwyr a phartneriaid am eu hymrwymiad i’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Rwyf yn ddiolchgar dros ben hefyd, am y ddwy filiwn o unigolion anhunanol sydd wedi ymuno â’r gofrestr, a sicrhau eu bod nhw ar gael pryd bynnag y bydd eu hangen.

“Mae’r garreg filltir o ddwy filiwn yn golygu mwy o gyfleoedd i lawer ddod o hyd i roddwyr sy’n cydweddu, sydd ddim yn perthyn iddyn nhw. Ond rydym yn dal i fod yn bell o’n nod o ddod o hyd i fôn-gelloedd sy’n cydweddu i bawb sydd eu hangen.

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’r gofrestr bôn-gelloedd, yn enwedig dynion ifanc, sydd fwyaf tebygol o gael eu dewis, i wneud hynny heddiw. Gallech achub bywyd rhywun; hebddoch chi – does dim modd gwella.”

Bob tro y bydd rhywun yn ymuno â’r gofrestr hon, mae’n dod â gobaith newydd i gleifion.

Guy Parkes, Pennaeth Rhoi Bôn-gelloedd a Thrawsblannu yng Ngwaed a Thrawsblaniadau’r GIG

Meddai Guy Parkes, Pennaeth Rhoi Bôn-gelloedd a Thrawsblannu yng Ngwaed a Thrawsblaniadau’r GIG

“Rydym eisiau i bob claf sydd angen trawsblaniad allu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, a allai achub eu bywyd. Bob tro y bydd rhywun yn ymuno â’r gofrestr hon, mae’n dod â gobaith newydd i gleifion.

“Mae’r gofrestr hon yn cael ei defnyddio gan ysbytai ar draws y DU i ddod o hyd i bobl addas sy’n cydweddu â chleifion, ac mae’r gofrestr wedi helpu i achub a gwella bywydau miloedd o bobl ers iddi gael ei chreu 33 mlynedd yn ôl – mae’n rhyfeddol bod gennym dros 2 filiwn o bobl ar y gofrestr erbyn hyn, sy’n gosod y siawns o baru rhoddwyr â chleifion ar ei lefel uchaf erioed.

“Mae rhoi bôn-gelloedd yn rhywbeth anhunanol i’w wneud, sy’n gallu achub bywydau. Mae’n rhywbeth anhygoel i’w wneud. Byddwn yn parhau i ehangu cofrestr y DU i helpu cleifion mewn angen. Mae angen i fwy o ddynion ymuno â’r gofrestr.”

Meddai Jonathan Pearce, Prif Swyddog Gweithredol DKMS UK:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd carreg filltir mor anhygoel, ac rydym yn ddiolchgar i’r ddwy filiwn o bobl hynny sydd wedi cofrestru, ac sy’n aros i helpu i roi ail gyfle mewn bywyd i rywun sy’n byw gyda chanser y gwaed neu anhwylder gwaed.

“Ar unrhyw un adeg, mae angen trawsblaniad bôn-gelloedd gwaed ar tua 2,000 o bobl yn y DU, felly er ein bod ni’n cydnabod y cyflawniad hwn, does dim rhaid dweud bod angen i ni barhau i annog pawb sy’n gallu cofrestru i wneud hynny. Bydd hyn yn helpu i gynyddu’r niferoedd ac amrywio’r gofrestr ymhellach, er mwyn gwella’r siawns i’r rheiny sydd â llai o siawns o ddod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar hyn o bryd.”