Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
Son's pledge to raise awareness of blood donations after losing his father to cancer - Welsh Blood Service

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Mab yn addo codi ymwybyddiaeth ynghylch rhoddion gwaed ar ôl iddo golli ei dad i ganser

Shaun Morgans running in Newport

Mae rhoddwr gwaed ifanc o Abertawe ar daith i ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddilyn yn ei olion traed.

Ar ôl colli ei dad i ganser y stumog yn 2014, daeth Shaun Morgans yn un o'r rhoddwyr ieuengaf yn y DU i roi dros 25 o roddion gwaed. Mae pob rhodd yn gallu helpu hyd at dri chlaf, sy'n golygu y gallai ei ymrwymiad i roi gwaed fod wedi achub hyd at 75 o bobl mewn angen.

"Diolch i roddwyr gwaed, roedd fy nheulu yn gallu treulio amser ychwanegol gyda fy nhad."

Shaun Morgans

Bellach yn 24 oed, dechreuodd Shaun roi gwaed yn 17 oed, ac mae'n annog eraill i wneud yr un peth.

Dywedodd Shaun: "Gwelais yn uniongyrchol pa mor bwysig oedd rhoddion gwaed i fy nhad, a dyna pam y penderfynais ddod yn rhoddwr gwaed. Ers hynny, dwi wedi bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi eraill mewn amgylchiadau tebyg.

"Dim ond tri y cant o'r rheini sy'n gallu rhoi gwaed sy'n gwneud hynny, a dyna pam mae'n hanfodol i mi fel rhoddwr ifanc godi ymwybyddiaeth. Does dim llawer o bobl yn sylweddoli y gallwch roi gwaed ar ôl i chi droi'n 17 oed.

Mae Rhoi yn Rhedeg yn eich Gwaed

Rydym eisiau ysbrydoli rhedwyr amatur a phroffesiynol ar draws y wlad i hyrwyddo rhoi gwaed drwy ein hymgyrch ' Mae Rhoi yn Rhedeg yn eich Gwaed', ymgyrch sydd wedi cael ei greu gan ddau o'r sefydliadau rhedeg cenedlaethol mwyaf, sef Athletau Cymru a Run 4 Wales.

Darllen mwy

"Rwy'n falch fy mod i wedi gallu mynd â fy mrawd iau i roi gwaed am y tro cyntaf hefyd, ac ochr yn ochr â fy mam, byddwn yn parhau i roi gwaed fel teulu."

Aeth awydd Shaun, sy’n rhedwr brwd, i hyrwyddo rhoi gwaed y tu hwnt i'r gadair rhoi gwaed yn ddiweddar hefyd, wrth iddo ddarganfod menter Gwasanaeth Gwaed Cymru o’r enw 'Mae Rhoi yn Rhedeg yn eich Gwaed’.

Roedd Shaun yn un o dri athletwr amatur a sicrhaodd le gyda 'Gwasanaeth Gwaed Cymru' yn y ras 10k yng Nghasnewydd yn ddiweddar. Addawodd bob un o’r rhedwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoddion gwaed a gobeithio, ysbrydoli rhoddwyr newydd i gofrestru hefyd.

Lansiwyd y fenter 'Mae Rhoi yn Rhedeg yn Eich Gwaed' gyda chefnogaeth Run4Wales ac Athletau Cymru, partneriaid cymunedol diweddaraf Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae'r tri sefydliad wedi ymuno i annog rhedwyr amatur a phroffesiynol ar draws Cymru i roi rhoddion gwaed sy'n achub bywydau.

Heart running route - Aberystwyth
Heart running route - Bala
Heart running route - Bangor
Heart running route - Bridgend
Heart running route - Cardiff
Heart running route - Newport

Eich llwybr

Boed yn rhedwr proffesiynol yn eich clwb rhedeg lleol neu'n ceisio dod o hyd i’ch esgidiau ymarfer yn nhu ôl y cwpwrdd, cymerwch ran drwy ddilyn un o'n llwybrau siâp calon, y gallwch eu gweld ar draws sawl cymuned yng Nghymru, a thrwy ddod draw i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Darllen mwy

Mae'r rhoddion hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau bob dydd drwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu dioddefwyr damweiniau a chleifion â chanserau gwaed, i gefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth. Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed bob dydd i gyflenwi'r 20 ysbyty ar draws y wlad.

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Shaun: "Diolch i roddwyr gwaed, roedd fy nheulu yn gallu treulio amser ychwanegol gyda fy nhad. Os ydych chi'n ffit ac yn iach, gwnewch apwyntiad i roi gwaed. Gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o bobl."

Giving Runs in Your Blood campaign image of runner Shaun Morgans

Os ydych chi'n 17 oed neu'n hŷn, darganfyddwch os allwch chi roi rhodd o waed a allai achub bywydau

Gwnewch apwyntiad heddiw