Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
Welsh Athletics and Run 4 Wales encourage the running community to 'get set and give blood'

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Athletau Cymru a Run 4 Cymru i annog y gymuned rhedeg i fynd ‘ar eich marciau a rhoi gwaed’

Newport runner

Rydym yn galw ar redwyr amatur a phroffesiynol ar draws Cymru i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywydau drwy ymgyrch newydd gan Wasanaeth Gwaed Cymru, Athletau Cymru a Run 4 Wales

Drwy ei hymgyrch ‘Giving Runs in Your Blood‘, mae rhedwyr ar draws Cymru yn cael eu hannog i gefnogi rhoi gwaed fel rhan o’u rhaglen hyfforddi, a gwneud gwahaniaeth sy’n achub bywydau i gleifion mewn angen.

Bydd y bartneriaeth newydd yn gweld rhoddion gwaed, platennau a mêr esgyrn yn cael eu hyrwyddo mewn nifer o ddigwyddiadau eiconig, gan gynnwys rasys rhedeg ar y ffordd Run 4 Wales, a’r pencampwriaethau cenedlaethol sydd ar y gweill gan Athletau Cymru.

Maen nhw’n dweud nad ydych chi byth yn difaru mynd i redeg, ac rydyn ni’n gwybod bod yr un peth yn wir am roi gwaed, a dyna pam rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli rhedwyr ar draws y wlad, gyda’n gilydd, i’n helpu i gyrraedd cynulleidfa newydd o roddwyr posibl.

Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae rhoddion gwaed yn chwarae rôl hanfodol wrth achub bywydau bob dydd, gyda rhoddion yn cefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu dioddefwyr damweiniau neu gleifion â chanser y gwaed, i famau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth.

Gydag ymhell dros 100 o glybiau rhedeg a 13,000 o aelodau gweithredol yng Nghymru, y gobaith yw y bydd pobl sy’n cofrestru o’r gymuned rhedeg yn helpu Gwasanaeth Gwaed Cymru i fodloni’r 350 o roddion gwaed sydd angen cael eu casglu bob dydd i gyflenwi ysbytai ar draws y wlad.

Heart running route - Aberystwyth
Heart running route - Bala
Heart running route - Bangor
Heart running route - Bridgend
Heart running route - Cardiff
Heart running route - Newport

Eich llwybr

I gyd-fynd â lansio’r ymgyrch, gall rhedwyr fynd i www.wbs.cymru/rhedeg i ddod o hyd i amrywiaeth o lwybrau rhedeg siâp calon wedi’u gwasgaru ar draws nifer o ddinasoedd a threfi Cymru, neu greu eu llwybrau eu hunain i’w rhannu.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Athletau Cymru a Run 4 Wales. Maen nhw’n dweud nad ydych chi byth yn difaru mynd i redeg, ac rydyn ni’n gwybod bod yr un peth yn wir am roi gwaed, a dyna pam rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli rhedwyr ar draws y wlad, gyda’n gilydd, i’n helpu i gyrraedd cynulleidfa newydd o roddwyr posibl.

“Gyda Gemau Olympaidd Tokyo yn agosau, ni fu erioed amser gwell i gefnogi’r ymgyrch hon. Boed yn rhedwr profiadol neu’n chwilio am eich esgidiau rhedeg yng nghefn y cwpwrdd, cymerwch ran drwy redeg ar hyd ein llwybrau siâp calon a dod draw i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.”

Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru: “Mae Athletau Cymru yn falch iawn o fod yn bartner cymunedol i Wasanaeth Gwaed Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd ein clybiau grwpiau rhedeg niferus, a’u haelodau ar draws Cymru yn awyddus i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Fel y gamp gyfranogi fwyaf yng Nghymru, gallwn chwarae ein rhan i sicrhau bod mwy o bobl yn cofrestru i roi rhoddion gwaed, platennau a mêr esgyrn sy’n achub bywydau.”

Rydym yn angerddol am iechyd a lles y genedl, felly rydym yn naturiol yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ar ymgyrch mor bwysig.

Matt Newman, Run 4 Wales Chief Executive

Meddai Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales: “Rydym yn angerddol am iechyd a lles y genedl, felly rydym yn naturiol yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ar ymgyrch mor bwysig.”

"Mae gennym rywfaint o weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio, ac rydym yn edrych ymlaen i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar y lefelau rhoi gwaed ar draws y wlad.”

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru.

Newport runner

Os ydych chi'n 17 oed neu'n hŷn, darganfyddwch os allwch chi roi rhodd o waed a allai achub bywydau

Gwnewch apwyntiad heddiw