Tested positive for Covid-19
Os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau. Efallai y bydd gennych beswch sych, ond cyn belled â’ch bod chi’n teimlo’n iach, gallwch roi gwaed.
Symptoms of Covid-19 but not had a test
Os ydych chi wedi cael symptomau Covid-19 ond heb gael prawf, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau.
Os ydych chi wedi bod yn hunanynysu oherwydd eich bod chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy’n sâl, ni allwch roi gwaed tan:
-
- bod 14 diwrnod o’r diwrnod ynysu cyntaf wedi mynd heibio os ydych chi’n parhau i fod heb symptomau.
- bod 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl datrys unrhyw symptomau sy’n awgrymu efallai bod gennych chi COVID-19, efallai eich bod chi wedi’u datblygu tra’ch bod chi’n hunanynysu.
- os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael eu diagnosio gyda COVID-19 neu sy’n dangos symptomau sy’n awgrymu bod gennych chi COVID, OND nad ydych chi wedi cael eich cynghori i hunanynysu, gallwch barhau i roi gwaed cyn belled â’ch bod chi’n iach.
- Os ydych chi wedi teithio i ardal sy’n gofyn i chi gwarantinio pan fyddwch yn dychwelyd, mae’n rhaid i chi aros am 10 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd i’r DU cyn i chi roi gwaed, cyn belled â’ch bod chi’n aros yn iach.
Os ydych chi’n profi symptomau ‘Covid Hir’, ar gyfer eich iechyd a’ch lles eich hun, peidiwch â rhoi gwaed nes eich bod chi’n heini ac iach.
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw faterion cardiaidd rydych chi wedi’u profi o ganlyniad i Covid-19 cyn gwneud eich apwyntiad.
Ym mhob achos, os byddwch yn rhoi gwaed, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod am unrhyw afiechydon rydych chi’n eu datblygu yn y 14 diwrnod ar ôl rhoi gwaed.