Mae Facebook wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon i helpu i ychwanegu at y biblinell rhoi gwaed, gyda ‘gwaed newydd’ mae mawr ei angen.
Bydd nodwedd rhoi gwaed newydd Facebook, sydd yn lansio heddiw, ac sydd eisoes wedi helpu i recriwtio mwy na 70 miliwn o roddwyr gwaed ar draws y byd, yn caniatáu i’r rheiny rhwng 18 a 65 oed i gofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook am roi gwaed, i gael gwybod am gyfleoedd i roi gwaed mewn canolfannau rhoi gwaed lleol, ac i wahodd ffrindiau i roi gwaed.
Mae Facebook yn hyrwyddo’r nodwedd drwy hysbysu pobl drwy eu cyflenwadau newyddion, neu gall pobl ddod o hyd iddo drwy chwilio am “blood donations” ar Facebook.