Beichiogrwydd diweddar
Os wnaeth eich beichiogrwydd bara llai na 12 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i chi roi gwaed, felly cysylltwch â ni i drafod hyn
Os wnaeth eich beichiogrwydd bara mwy na 12 wythnos, dylech aros tan fod 6 mis wedi mynd heibio o ddiwedd eich beichiogrwydd cyn rhoi gwaed. Mae hyn yn rhoi amser i chi adfer yr haearn sydd yn cael ei golli fel arfer yn ystod beichiogrwydd.
Beichiogrwydd
Ni allwch roi gwaed os ydych chi’n feichiog.
Bwydo ar y fron
Gallwch roi gwaed os ydych chi’n bwydo ar y fron, ond mae’n rhaid i chi aros tan fod o leiaf 6 mis wedi mynd heibio o ddiwedd eich beichiogrwydd cyn rhoi gwaed.
Trallwysiad Gwaed
Os ydych chi wedi cael trallwysiad gwaed yn ystod eich beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed.