Gall teithio y tu allan i’r DU effeithio ar p’un a allwch chi roi gwaed neu beidio. Y rheswm am hyn yw y gallwch ddal rhai heintiau dramor, drwy bigiadau gan fosgito neu bryfed eraill fel arfer.
Os ydych chi’n rhoi enw’r wlad rydych chi’n bwriadu ymweld â hi, neu wedi ymweld â hi yma, gallwch weld a ydych yn debygol o gael eich gohirio rhag rhoi gwaed neu beidio. Dyma’r Mynegai Perygl Clefydau Daearyddol presennol sydd yn cael ei ddefnyddio gan holl Wasanaethau Gwaed y DU.
Things to consider:
Malaria
Bydd yn rhaid i chi aros 120 diwrnod/4 mis ar ôl ymweld ag ardal malaria cyn y gallwch roi gwaed. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi wedi cymryd meddyginiaeth gwrthfalaria. ...darllen mwy.
Feirws Nil y Gorllewin
Mae teithio i ardal Feirws Nîl y Gorllewin rhwng 1 Mai a 30 Tachwedd yn golygu bod yn rhaid i chi aros 28 diwrnod cyn y gallwch roi gwaed. Mae hyn cael ei ymestyn i 6 mis os ydych chi’n datblygu symptomau ysgafn tra byddwch yno, neu o fewn 28 diwrnod ar ôl gadael yr ardal lle mae risg.
Os ydych chi wedi ymweld ag unrhyw le y tu allan i’r DU yn y 12 mis diwethaf, mae’n syniad da siarad ag un o’n cynghorwyr cyn dod i roi gwaed. ...darllen mwy.
Feirysau Trofannol (Chikungunya, Dengue neu’r Feirws Zika)
Os byddwch yn teithio i ardal lle mae risg o ddal feirws trofannol, bydd yn rhaid i chi aros 28 diwrnod cyn y gallwch roi gwaed. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i 6 mis os byddwch yn sâl yn ystod eich ymweliad neu o fewn 28 diwrnod ar ôl gadael yr ardal risg.
Clefyd Chagas
Special rules apply to people born in, or whose mother was born in: South America; Central America; or Mexico, or those who have spent 28 days or more in rural areas there. Chagas Disease can also be passed on through blood transfusions and from mother to their unborn child. If this applies to you, please contact us on 0800 252266 for further assessment.
Twymyn Gwaedlifol Firaol
Mae twymyn gwaedlifol firaol yn derm cyffredinol ar gyfer salwch difrifol, sydd weithiau yn gysylltiedig â gwaedu, a allai gael ei achosi gan nifer o firysau. Fel arfer, mae’r term yn cael ei ddefnyddio ar gyfer afiechyd sydd yn cael ei achosi gan dwymyn LASSA, twymyn gwaedlifol Crimea-Congo, Twymyn y Dyffryn Hollt ac Ebola. Ni ddylai rhoddwyr sydd â hanes o dwymyn gwaedlifol firaol fyth roi gwaed. Bydd rhoddwyr sydd wedi ymweld ag ardal risg yn cael eu gohirio rhag rhoi gwaed am gyfnod o 6 mis.
Rydym yn gofyn y cwestiynau canlynol hefyd:
- A gawsoch eich geni dramor?
- Ydych chi wedi byw neu weithio dramor erioed?
- Ydych chi wedi cael unrhyw salwch yn ystod neu ar ôl teithio dramor?
Coronafeirws
A coronavirus is a type of virus. As a group, coronaviruses are common across the world.
Mae symptomau nodweddiadol o’r coronafeirws yn cynnwys twymyn a pheswch, a allai symud ymlaen i fod yn niwmonia difrifol sy’n achosi diffyg anadl ac anawsterau anadlu.
Yn gyffredinol, mae coronafeirws yn gallu achosi symptomau mwy difrifol mewn pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a’r rheini sydd â chyflyrau hirdymor fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill y DU i fonitro’r sefyllfa’n ofalus, ac mae mesurau ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Achosion a heintiau newydd
Gall heintiau newydd ddod i’r amlwg unrhyw bryd, felly gall ein rheolau newid ar fyr rybudd. Os ydych chi wedi bod mewn unrhyw le y tu allan i’r DU yn y 12 mis diwethaf, mae’n syniad da siarad gydag un o’n hymgynghorwyr cyn mynd i glinig.