Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
Donating during the pandemic - Welsh Blood Service

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Rhoi gwaed yn ystod y pandemig

Coronafeirws (COVID-19)

We take great care to ensure the safety of our blood supply and the health and well-being of all our donors and patients during the Covid-19 outbreak.

We are closely monitoring all developments in relation to Covid-19 outbreak and are regularly reviewing our procedures in place to maintain blood supply safety.

Below are answers to the most common questions asked.

Trefnu apwyntiad

Tested positive for Covid-19
Os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau. Efallai y bydd gennych beswch sych, ond cyn belled â’ch bod chi’n teimlo’n iach, gallwch roi gwaed.

Symptoms of Covid-19 but not had a test
Os ydych chi wedi cael symptomau Covid-19 ond heb gael prawf, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau.

Os ydych chi wedi bod yn hunanynysu oherwydd eich bod chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy’n sâl, ni allwch roi gwaed tan:

    • bod 14 diwrnod o’r diwrnod ynysu cyntaf wedi mynd heibio os ydych chi’n parhau i fod heb symptomau.
    • bod 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl datrys unrhyw symptomau sy’n awgrymu efallai bod gennych chi COVID-19, efallai eich bod chi wedi’u datblygu tra’ch bod chi’n hunanynysu.
    • os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael eu diagnosio gyda COVID-19 neu sy’n dangos symptomau sy’n awgrymu bod gennych chi COVID, OND nad ydych chi wedi cael eich cynghori i hunanynysu, gallwch barhau i roi gwaed cyn belled â’ch bod chi’n iach.
    • Os ydych chi wedi teithio i ardal sy’n gofyn i chi gwarantinio pan fyddwch yn dychwelyd, mae’n rhaid i chi aros am 10 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd i’r DU cyn i chi roi gwaed, cyn belled â’ch bod chi’n aros yn iach.

Os ydych chi’n profi symptomau ‘Covid Hir’, ar gyfer eich iechyd a’ch lles eich hun, peidiwch â rhoi gwaed nes eich bod chi’n heini ac iach.

Cysylltwch â ni i drafod unrhyw faterion cardiaidd rydych chi wedi’u profi o ganlyniad i Covid-19 cyn gwneud eich apwyntiad.

Ym mhob achos, os byddwch yn rhoi gwaed, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod am unrhyw afiechydon rydych chi’n eu datblygu yn y 14 diwrnod ar ôl rhoi gwaed.

Os ydych chi wedi cael prawf covid arferol, er enghraifft, un a gafodd ei wneud yn eich gweithle, ar ôl dod i gyswllt ag achos positif, ar ôl teithio neu cyn mynychu cyngherddau, byddwch yn gallu rhoi gwaed, ar yr amod bod y canlyniad yn negatif a’ch bod chi heb symptomau.

Byddai WBS yn eich cynghori i beidio â rhoi gwaed ar hyn o bryd os yw hyn yn berthnasol i chi.

Os ydych yn hunanynysu’n llwyr fel cartref oherwydd bod rhywun yn yr aelwyd mewn grŵp agored i niwed, yna peidiwch â mynychu. Os nad ydych yn mynychu, dylech ganslo eich apwyntiad os oes gennych un.

We do not control the rules and regulations around blood donation.

Mae ein cyfnodau rhoi gwaed ar hyn o bryd yn dal I barhau ar gyfer rhoi gwaed, gan y bydd hyn yn rhoi amser i’r corff adfer lefelau haearn, lefelau haemoglobin a lefelau celloedd gwaed coch.

Gorchuddion wyneb

Yn unol â chyngor Iechyd y Cyhoedd a chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i roddwyr wisgo gorchudd wyneb tra’n mynychu ein sesiynau rhoi gwaed, oni bai eu bod nhw wedi cael eu heithrio rhag gorfod gwisgo un.

Byddwn, byddwn yn rhoi masg wyneb gradd feddygol i chi, a byddwn yn gofyn i chi ei wisgo tra byddwch yn y clinig rhoi gwaed.

Gall rhoddwyr sydd wedi’u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb roi gwaed heb orfod gwisgo gorchudd wyneb.

Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn i roddwyr wisgo un o’r mygydau wyneb gradd feddygol a ddarperir.

Nid yw feisor neu amddiffynnydd wyneb yn cael eu hystyried fel gorchudd wyneb, gan eu bod yn ffitio’n llac dros y llygaid ac yn ymestyn i lawr, ond nid ydynt yn gorchuddio’r trwyn a’r geg.

Mae cyfnodau byr o amser o fewn y broses rhoi gwaed lle bydd gofyn i chi ostwng eich gorchudd wyneb, er enghraifft yn ystod yr asesiad sgrinio a pan rydych chi’n cael lluniaeth ar ôl rhoi gwaed. Ar wahân i’r adegau hyn, byddem yn gofyn i chi adael eich gorchudd wyneb ymlaen.

Buasem yn eich cynghori chi hefyd, i sicrhau eich bod chi’n diheintio eich dwylo gyda hylif diheintio dwylo sydd ar gael yn y sesiwn, ar ôl cyffwrdd eich gorchudd wyneb.

Byddwn yn gofyn i roddwyr sy’n dod i glinig yn gwisgo menig y gellir eu taflu i ffwrdd i’w tynnu yn yr ardal Brysbennu cyn mynd mewn i’r clinig. Bydd angen iddynt olchi eu dwylo hefyd, neu ddefnyddio’r diheintydd golchi dwylo ar yr un pryd.

Sesiwn rhoi gwaed

Mae’r holl roddwyr yn cael eu sgrinio ymlaen llaw cyn iddynt fynd i mewn i’r clinig mewn ardal brysbennu ar wahân.

All donors are pre-screened before they enter the clinic environment in a separate triage area.

Yn ogystal â’r rhagofalon iechyd a diogelwch arferol ar gyfer ein staff a rhoddwyr (sy’n cynnwys defnyddio setiau casglu sterilaidd ar gyfer pob rhodd a pharatoi’r fraich gyda glanhawr aseptig), mae’r bwlch rhwng seddi rhoddwyr a seddi wrth y bwrdd te wedi’i gynyddu i gydymffurfio â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ein timau yn dilyn protocolau hylendid caeth wrth lanhau offer a chyda gwisgo PPE (mygydau , ffedogau ac offfer diogelwch llygaid) a gyda’r defnydd rheolaidd o gel diheintio dwylo yn rheolaidd.

O’r pamser y byddwch yn cyrraedd clinig, mae gennym ddarpariaethau cadw pellter cymdeithasol ar waith.

Mae’r rhain yn cynnwys:

    • marciau 2m pan fyddwch yn aros i gael eich brysbennu,
    • gofod o 2m rhwng cadeiriau i gwblhau eich holiadur,
    • mae’r cadeiriau rhoi gwaed wedi cael eu gosod o leiaf 2m ar wahan wrth ein byrddau te ar ol rhoi gwaed.

Am resymau diogelwch, yn ystod Covid-19, rydym yn gofyn, ble’n bosibl, mai dim ond y rheiny sy’n rhoi gwaed sy’n dod i mewn i’r sesiwn rhoi gwaed

Os yw hyn yn creu problem i chi, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt Rhoddwyr 0800 252 266 cyn eich cyfarfod i drafod y mater.

Rydym yn gofyn i roddwyr gwaed i ddod i mewn i’r sesiwn dim ond ar adeg eu hapwyntiad, er mwyn helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth brysbennu ac yna, y tu mewn i’r lleoliad.

Bydd hyn yn lleihau unrhyw giwio ac yn helpu i ddiogelu iechyd pawb.

Os ydy pobl yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd ein timau yn gofyn iddynt aros gerllaw – er enghraifft yn eu car-er mwyn iddynt ddod i mewn i’r sesiwn ar yr adeg orau. Mae’r sefyllfa wedi bod yn newid yn gyflym, ac rydyn ni’n gofyn i bobl fod yn amyneddgar ac yn barchus tuag at ei gilydd a’n timau rhoi gwaed, i’n helpu ni i gefnogi’r GIG ehangach yn y ffordd orau.

Coronafeirws (COVID-19)

Nid ydy GGC yn profi am SARS-CoV-2 fel mater o drefn.

Teulu o feirysau yw’r cornafeirws. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw fath o goronafeirws yn cael ei drosglwyddo drwy roi gwaed neu drallwysiad gwaed.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod COVID-19 yn cael ei drosglwyddo gan drallwysiad gwaed, ac mae ein proses sgrinio gadarn yn golygu nad ydym yn caniatáu i bobl sy’n sâl i roi gwaed.

Nac ydych. Dydyn ni ddim yn cymryd digon o waed i gyfaddawdu eich system imiwnedd, a cyhyd â’ch bod chi’n ffit ac yn iach pan fyddwch chi’n rhoi gwaed, dydych chi ddim yn wynebu unrhyw risg ychwanegol.

Brechlynnau

Ni ddylech rhoi gwaed tan o leiaf saith diwrnod ar ôl i chi dderbyn naill ai’r brechlyn Pfizer/BioNTech COVID-19 neu’r brechlyn AstraZeneca COVID-19. Mae’n rhaid i chi fod yn iach hefyd, heb unrhyw adweithiau lleol neu systemig parhaus i’r brechlyn.

Os wnaethoch chi gymryd rhan mewn treial ar gyfer brechlyn COVID–19:

    • ni allwch roi gwaed nes bod pedair wythnos wedi mynd heibio ar ôl i chi gael eich brechiad diweddaraf , neu
    • os ydych chi’n dal i fod o fewn unrhyw gyfnod gohirio sydd yn cael ei gynghori yn y protocol ar gyfer unrhyw dreial clinigol rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer.

Os nad ydych chi’n siŵr, ceisiwch gael cyngor pellach gan yr uned dreialu rydych chi wedi cofrestru ynddi.

Achubwch fywydau.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.