Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
Haemoglobin Anaemia and Iron - Welsh Blood Service

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Hemoglobin Haearn a Anemia

Hemoglobin, Haearn a Anemia

Beth ydy hemoglobin?

Hemoglobin ydy pigment coch y gwaed. Mae’n cynnwys haearn ac yn cario ocsigen o’r ysgyfaint i weddill y corff. Mae’r lefel haemoglobin yn amrywio o berson i berson a hyd yn oed o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae rhoddwyr ifanc, rhoddwyr benywaidd sydd yn y cyfnod cyn y menopos, rhoddwyr sy’n rhoi gwaed yn rheolaidd iawn a rhoddwyr sydd â lefelau isel o haearn yn eu deietau mewn mwy o berygl o ddioddef o ddiffyg haearn o ganlyniad i roi gwaed. Fel arfer, mae gan ddynion lefelau uwch na menywod.

Beth ydy haearn?

Mae haearn yn faetholyn hanfodol. Mae’n gydran o haemoglobin, mewn celloedd coch y gwaed, ac o fyoglobin, mewn celloedd y cyhyrau, sy’n gyfrifol am gludo ocsigen o amgylch y corff ac am storio ocsigen mewn cyhyrau a meinweoedd. Mae haearn yn gydran o ensymau hefyd, sy’n bwysig ar gyfer metaboledd ynni.

Beth ydy anemia?

Mae anemia’n digwydd pan fo lefel yr hemoglobin yn is na’r arfer. Er bod y corff dynol yn gallu storio rhywfaint o haearn yn lle’r hyn sy’n cael ei golli, gall lefelau isel o haearn dros gyfnod hir o amser arwain at anemia, sy’n cael ei achosi gan ddiffyg haearn, a pheri i unigolion brofi amrywiaeth o symptomau, sy’n cynnwys; diffyg egni, prinder anadl, croen gwelw, cur pen, anniddigrwydd, pendro, crychguriadau’r galon a cholli pwysau.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw

Prawf Gwaed

Roedd ein profion yn y clinig, gan gynnwys y prawf ‘pigo bys’ a’r sampl a brofwyd ar y ddyfais Hemocue, yn nodi y gallai lefel eich hemoglobin fod wedi bod yn is na’r hyn sydd ei angen, felly bydd y sampl llawn o gyfrif gwaed a gymerwyd gennym heddiw yn cael ei anfon i’n labordy i gael ei ddadansoddi’n fwy manwl.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fyddwn yn cael canlyniadau’r sampl cyfrif gwaed llawn. Bydd ein llythyr yn eich cynghori a ddylech oedi cyn cynnig rhoi gwaed eto am gyfnod, ac os oes angen i chi weld eich Meddyg Teulu i gael rhagor o ymchwiliadau neu gyngor.

Os na fyddwch yn derbyn llythyr mewn pythefnos, ffoniwch ni ar y rhif rhadffôn 0800 252266 rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu cysylltwch â ni ar donors@wales.nhs.uk.

Beth y gallaf ei wneud i godi fy lefelau haearn?

Mae pob rhodd o waed yn cynnwys tua 240mg o haearn, ac mae’n gallu cymryd tua 4-6 mis i greu gwaed newydd drwy fwyta deiet llawn haearn. Mae haearn yn cael ei ddarganfod mewn amrywiaeth o fwydydd, a gallwch fel arfer gael digon o haearn drwy fwyta deiet cytbwys. Y ffynonellau haearn mwyaf cyfoethog ydy grawnfwydydd, llysiau, cnau, wyau, pysgod a chig. Mae’n haws i’r corffamsugno haearn o ffynonellau cig, ond dylai pobl sy’n dilyn deiet llysieuol neu fegan gael digon o haearn o’u deiet.

Mae fitamin C yn helpu’r corff i amsugno mwy o haearn hefyd, felly bydd bwyta bwydydd sydd yn cynnwys fitamin C, fel ffrwythau a llysiau, neu ddiodydd fel sudd oren ffres, yn helpu i wella’r lefelau haearn yn y corff hefyd. Mae te, ar y llaw arall, yn lleihau’r gallu i amsugno mwy o haearn. Gellir osgoi hyn drwy beidio ag yfed te gyda phrydau bwyd, neu’n syth ar ôl prydau bwyd.

Ydw i angen cymryd tabledi haearn?

Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr holl haearn sydd ei angen arnynt drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys, ac ni ddylai fod angen iddynt gymryd atchwanegiadau haearn na thabledi haearn. Fodd bynnag, dewis personol yw hwn, a gellir cymryd tabledi lluosfitaminau gyda haearn. Os yw’r prawf a gymerwyd heddiw yn dangos bod lefel yr haearn yn eich corff yn isel, efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi tabled sy’n cynnwys haearn i chi.