Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the translatepress-multilingual domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131

Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wordpress-seo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/develop-wbs.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6131
West Nile Virus (WNV) - Welsh Blood Service

Rydym yn edrych am fwy o roddwyr i roi gwaed am y tro cyntaf. I wirio os ydych chi’n gymwys cliciwch yma.

Feirws Nil y Gorllewin

Os fyddwch chi’n mynd i ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin rhwng 1 Mai a 30 Tachwedd, bydd canllawiau ychwanegol yn berthnasol i chi.

Ni fyddwch chi’n gallu rhoi gwaed am o leiaf 28 diwrnod o’r dyddiad y byddwch yn dychwelyd, a bydd hyn yn cael ei ymestyn i chwe mis os ydych chi wedi cael eich diagnosio gyda Feirws Nîl y Gorllewin neu os ydych chi wedi cael symptomau a allai fod wedi bod yn gysylltiedig â Feirws Nîl y Gorllewin.

Mae’r gohiriadau dros dro hyn yn cael eu gosod i geisio lleihau’r risg o drosglwyddo Feirws Nîl y Gorllewin i gleifion sy’n cael trallwysiadau gwaed.

Os bydd yn rhaid i ni eich gohirio chi dros dro rhag rhoi gwaed, ceisiwch roi gwaed cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r cyfnod gohirio ddod i ben, gan fod pob rhodd o waed yn bwysig iawn.

Beth ydy Feirws Nîl y Gorllewin?

Haint ydy Feirws Nîl y Gorllewin sy’n gallu cael ei ddal mewn llawer o wledydd, ac mae’n cael ei ledaenu gan adar a mosgitos. Mae gan y feirws gyfnod heintus o 3 - 8 diwrnod. Mae’n achosi sbectrwm eang o symptomau amhenodol mewn pobl, gan gynnwys:

  • Twymyn/ oerfel
  • Cur pen
  • Gwendid / blinder
  • Teimlo eisiau cysgu
  • Brech
  • Cyfog / chwydu/ dolur rhydd
  • Colli archwaeth

Fel arfer, mae symptomau’n diflannu o fewn 7-10 diwrnod, er y gall y blinder barhau am rai wythnosau.

Mae miloedd o achosion ymysg pobl a nifer o farwolaethau wedi’u priodoli i haint Feirws Nîl y Gorllewin ers 1999. Dyna pam mae’r Gwasanaethau Gwaed wedi cyflwyno rheolau mewn perthynas â rhoddwyr sydd wedi teithio i ardaloedd risg yn ystod tymor y mosgitos (Mai i Dachwedd).

Yn barod i roi gwaed? Trefnwch apwyntiad i roi gwaed sy'n achub bywydau yn eich ardal chi.

Dechreuwch yma